music

Music like sŵnami

sŵnami

Llanelli oedd lleoliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014, a gynhaliwyd, fel ag yn 2000, ar faes arfordirol Llanelli. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Ngŵyl y Cyhoeddi ar 29 Mehefin 2013 gyda dros fil o bobl yn gorymdeithio drwy dref Caerfyrddin. Cyfanswm nifer yr ymwelwyr oedd 143,502.

Cafwyd sawl cyngerdd gan gynnwys: Gala Agoriadol gyda chaneuon o sioeau cerdd poblogaidd gan gynnwys Grav, Nia Ben Aur, Pum Diwrnod o Ryddid ac Er Mwyn Yfory. Ar y nos Sadwrn cyntaf, cynhaliwyd cyngerdd gyda: Wynne Evans, John Owen-Jones, Shan Cothi, a Kizzy Crawford. Ymhlith y perfformwyr eraill roedd: Nigel Owens, Tri Tenor Cymru, Huw Chiswell, Gillian Elisa, Gwenda a Geinor a Chôr y Wiber. Noson glasurol oedd ar y nos Iau, sef Messe Solennelle, Gounod a Requiem, Faure gyda Fflur Wyn, Trystan Llŷr Griffiths, Gwion Tomos, a Cherddorfa Siambr Cymru, dan arweiniad Grant Llewellyn.

Picture of a musician: sŵnami

Filter by:

Cross-category suggestions

Filter by:

Filter by:

Filter by:

Filter by:

Filter by:

Filter by:

Filter by: